Uppskattad leveranstid 7-12 arbetsdagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249:-
(A history of the Labour party in Welsh by one of its longest standing activists)
A hithau wedi dominyddu Gwleidyddiaeth Cymru ers dechrau'r ugeinfed ganrif, y Blaid Lafur Gymreig yw un o'r pleidiau gwleidyddol fwyaf llwyddiannus mewn unrhyw wlad, ac mae ganddi ran hollol ganolog yn hanes Cymru dros y ganrif a hanner ers ei sefydlu. Mae gan Gymru ei hun lle hynod bwysig yn hanes y Blaid Lafur, gan mai yng Nghymru yr ennillodd y Blaid ei buddugoliaethau etholaethol cyntaf, a Chymru fu ei chadarnle hynaf a chryfaf erioed.
Serch hynny, cyn nawr ni fu ymdrech i olrhain a chrynhoi hanes cyflawn y Blaid Lafur yng Nghymru yn yr Iaith Gymraeg, o'i rhagflaenwyr ymysg Cristnogion sosialaidd fel Robert Owen drwy at fuddugoliaethau ffurfiol cyntaf y blaid ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, cyfnodau cythryblus mewn llywodraeth ac fel gwrthblaid, a'i chyfnodau o lwyddiant ac o fethiant yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Telir sylw teilwng i ffigyrrau Cymreig blaenllaw'r blaid ac i'r cwestiynau hynny oedd o ddiddordeb neilltuol iddynt megis datganoli a'r Iaith Gymraeg.
Mae D. Ben Rees wedi bod yn weithgar gyda'r Blaid Lafur ers y 1950au ac eisoes wedi cyhoeddi bywgraffiadau i amrywiaeth o unigolion ag iddynt ran flaenllaw yn y gyfrol hon, fel Cledwyn Hughes a Jim Griffiths.
- Format: Pocket/Paperback
- ISBN: 9781917237284
- Språk: Kymriska
- Antal sidor: 216
- Utgivningsdatum: 2024-09-02
- Förlag: Melin Bapur