309:-
Uppskattad leveranstid 7-12 arbetsdagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249:-
Dymar gyfrol Gymraeg gyntaf i drafod y portread o amlddiwylliannedd yng Nghymru mewn ffuglen Gymraeg a Saesneg gyfoes. Maen astudiaeth gymharol syn dod gwaith rhai o awduron Cymraeg a Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru yn y degawdau diwethaf ynghyd gan gynnwys Angharad Price, Llwyd Owen, Tony Bianchi, Charlotte Williams a Dannie Abse. Maen ein cyflwyno hefyd i waith awduron nad ydynt wedi derbyn llawer o sylw beirniadol hyd yn hyn, awduron megis Nikita Lalwani a Joe Dunthorne. Er mwyn ystyried y portread o amlddiwylliannedd, rhoddir ar waith ddamcaniaethau am aralledd term syn dynodi gwahaniaeth a ystyrir yn israddol ir brif ffrwd gymdeithasol neu ddiwylliannol. Trwy archwilio ffurf y nofel Gymreig gyfoes, ynghyd themu megis ystrydebau, amlieithrwydd, a mudo a mewnfudo, awgrymar gyfrol hon sut y gall darllen ffuglen ar draws ffiniau ieithyddol Cymru gyfrannu at ddatblygu cymdeithas Gymreig fwy cynhwysol cymdeithas lle y maer Gymraeg yn ganolog i fywyd y genedl, ond lle yr ymwrthodir seilio hunaniaeth Gymreig ar allur unigolyn yn yr iaith honno; a chymdeithas lle y maer dwyieithrwydd sylfaenol hwn yn herio cysyniadau am oruchafiaeth, ac angenrheidrwydd, un brif ffrwd ddiwylliannol.
- Format: Pocket/Paperback
- ISBN: 9781786831972
- Språk: Kymriska
- Antal sidor: 256
- Utgivningsdatum: 2018-06-15
- Förlag: University of Wales Press