bokomslag Yr Anymwybod Cymreig
Filosofi & religion

Yr Anymwybod Cymreig

Llion Wigley

Pocket

289:-

Funktionen begränsas av dina webbläsarinställningar (t.ex. privat läge).

Uppskattad leveranstid 7-11 arbetsdagar

Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249:-

  • 160 sidor
  • 2019
Maer gyfrol hon yn rhoi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif cynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970. Bu Jones yn rhan ganolog or ymgais a wnaed yn y cyfnod i gyflwyno syniadau newydd, heriol a chwyldroadol o feysydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth ir diwylliant Cymraeg. Adeiladodd meddylwyr ac ysgolheigion tebyg iddo ddarlun or anymwybod Cymreig mewn gwaith sydd o gymorth parhaol i ddeall ein profiadau hanesyddol a gwleidyddol fel cenedl. Trwy ddadansoddi sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, lleolir hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang. Ceisir ymhellach ddangos perthnasedd a phwysigrwydd y dehongliad Cymraeg o rhai or syniadau hyn i ddadleuon cyfoes ynglyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth ac hunaniaeth yng Nghymru. Ymatebodd cenhedlaeth o awduron ir argyfwng dirfodol a wynebair diwylliant Cymraeg yn y cyfnod dan sylw trwy ddangos ymrwymiad a phenderfyniad i gymhwyso ac addasur datblygiadau deallusol mwyaf modern er mwyn ceisio goresgyn yr argyfwng mewn modd syn parhaun ysbrydoliaeth heddiw, yng nghysgod Brexit a thwf awdurdodaeth.
  • Författare: Llion Wigley
  • Illustratör: No
  • Format: Pocket/Paperback
  • ISBN: 9781786834454
  • Språk: Kymriska
  • Antal sidor: 160
  • Utgivningsdatum: 2019-06-15
  • Förlag: University of Wales Press