289:-
Tillfälligt slut online – klicka på "Bevaka" för att få ett mejl så fort varan går att köpa igen.
Yn ogystal a bod yn llenor nodedig, D.J. oedd un o genedlaetholwyr pwysicaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Credai'n ddiysgog y dylai Cymru feddu ar y grym gwleidyddol i drefnu ei bywyd ei hun hen ymyrraeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Cysegrodd ei fywyd i wireddu ei freuddwyd o weld Cymru'n Gymru rydd trwy weithio'n ddiflino dros Blaid cymru a cheisiodd gyflwyno'i weledigaeth i'w gyfoedion yn ei erthyglau gwleidyddol a'i weithiau llenyddol. Ffynhonnell yr ysbrydoliaeth a'i cynhaliodd, trwy gydol oes o frwydro dygn, oedd ei ddelfryd o sefydlu yng Nghymru genedl ar batrwm y bywyd gwar, delfrydol a brofodd yn Rhydcymerau ym mlynyddoedd ei ieuenctid. Gadawodd Rydcymerau ac yntau ond yn un ar bymtheg oed a bu'n byw yn alltud yn Abergwaun am hanner can mlynedd. Efallai taw'r alltudiaeth hon a wnaeth D.J., y Cawr o Rydcymerau, yn un o fawrion ei genedl. Dyma'r cofiant cyflawn cyntaf am fywyd a gwaith y Cymro nodedig hwn, a chyhoeddir ynddo hefyd, am y tro cyntaf, ddetholiad o'i ddyddiaduron. As well as being a noted litterateur, D.J. was one of Wales' most important nationalists during the twentieth century. He steadfastly believed that Wales should be given the political powers to run itself, without interference from the British Empire. He devoted his life to realising his dream of seeing a free Wales by working tirelessly on behalf of Plaid Cymru and he attempted to present his vision to contemporaries through his articles and litterary works. The source of inspiration, that supported him through years of tireless struggle, was his ideal of establishing in Wales a nation based on the idealistic childhood that he experienced in Rhydcymerau. He left Rhydcymerau at just sixteen years of age and lived in exile in Fishguard for fifty years. Perhaps this banishment made D.J., the Giant of Rhydcymerau, one of his nation's greatest. This is the first comprehensive biography on the life and work of this remarkable Welshman, and sees the publication, for the first time, of extracts from his diaries.
- Format: Pocket/Paperback
- ISBN: 9781847710574
- Språk: Kymriska
- Antal sidor: 352
- Utgivningsdatum: 2009-07-29
- Förlag: Y Lolfa