Uppskattad leveranstid 5-10 arbetsdagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249:-
(A first translation into Welsh of the poetry of Jewish poet Selma Merbaum)
Cerddi 1939-1941
Selma Merbaum
Ganed Selma Merbaum yn Czernowitz (heddiw Chernivtsi yn Wcráin) ym 1924. Gelwid Czernowitz yn "Klein Wien" (Fienna Fach) oherwydd yr amrywiaeth o ieithoedd a siaredid yno a chyfoeth bywyd diwylliannol y ddinas. Medrai Selma Almaeneg, Iddeweg a Rwmaneg, yr olaf oherwydd bod Bwcofina wedi'i roi i Rwmania ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn dilyn datgymalu'r ymerodraeth Awstro-Hwngaraidd. Bu farw yn 18 oed o deiffws ym 1942 yng ngwesyll llafur Mikhailowka dan reolaeth yr SS.
Ar ôl darganfod ei cherddi a chyhoeddi'r Blütenlese ('CynhaeafBlodau') yn Israel ym 1975, dechreuwyd cymryd diddordeb ynddo yn yr Almaen, ac erbyn hyn mae wedi'i gyfieithu i Iddeweg, Hebraeg, Saesneg, Iseldireg, Sbaeneg ac Wcraineg, ac wedi dod yn rhan o lenyddiaeth y byd.
Yn y llyfr hwn ceisiwyd trefnu'r cyfieithiadau yn gronolegol er mwyn dangos ei datblygiad fel bardd yn ystod cyfnod byr ei blodau. Fel y bardd enwog Paul Celan, a oedd yn perthyn iddi, ysgrifennai yn Almaeneg, iaith prif erlidwyr yr Iddewon pryd hynny.
- Format: Pocket/Paperback
- ISBN: 9781917237192
- Språk: Kymriska
- Antal sidor: 100
- Utgivningsdatum: 2024-08-01
- Översättare: Mary Burdett-Jones
- Förlag: Melin Bapur