Uppskattad leveranstid 7-12 arbetsdagar
Fri frakt för medlemmar vid köp för minst 249:-
(The collected poems of Welsh poet W. J. Gruffydd (1871-1954))
"Fe ddaw eu tro'n ddiogel - ond pa waeth?
Ni leddfir tinc y chwerthin melys rhydd;
Ni ddelir adain maboed un yn gaeth
Wrth gofio am drueni'r meirwon prudd,
A'u dwylo'n groesion, yn eu gwely gro."
William John Gruffydd oedd un o ffigurau cyhoeddus mwyaf blaenllaw'r byd Cymraeg yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Roedd yn un o ysgolheigion mwyaf dylanwadol ei oes ym maes llenyddiaeth Gymraeg, yn olygydd papur newydd Y Llenor am ddegawdau, a bu'n enwog hefyd am ei gystadleuaeth wybyddol a gwleidyddol gyda Saunders Lewis, a ddaeth i'w hanterth yn ystod isetholiad sedd Prifysgol Cymru yn 1943, a enillwyd gan Gruffydd.
Fel bardd, fodd bynnag, daeth Gruffydd i'r amlwg yn gyntaf, a hynny'n llanc ugain oed pan gyhoeddwyd Telynegion, ei gydweithrediad gydag R. Silyn Roberts. Ystyrir ef o hyd yn un o feirdd mawr y dadeni mewn barddoniaeth Cymraeg ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac er bod detholiadau lawer wedi'u gwneud o'i waith, y gyfrol hon yw'r ymgais cyntaf i gasglu ynghyd holl weithiau barddonol cyhoeddedig y bardd.
- Format: Pocket/Paperback
- ISBN: 9781917237390
- Språk: Kymriska
- Antal sidor: 226
- Utgivningsdatum: 2025-01-20
- Förlag: Melin Bapur